Saturday, February 23, 2008

Rygbi agored

Bydd gêm agored yn allweddol heddiw. Rhaid canolbwyntio ar ein cryfderau a cheisio osgoi cryfder yr Eidalwyr, sef eu blaenwyr nerthol. Yn sicr, Cymru sydd â'r fantais seicolegol, ar ôl ennill ei dwy gêm gyntaf, er y cafwyd perfformiadau anfoddhaol yn erbyn yr Eidal dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae Gatland yn hoffi pwysleisio y dylid canolbwyntio ar y tymor canolig a'r hirdymor, sef ffordd arall o ddweud 'peidiwch â rhoi amser caled i mi os byddwn yn cael crasfa heddiw'. Serch hynny, mae ffordd o feddwl yr hyfforddwr wedi gwneud argraff dda arnaf. Nid oes ofn mentro arno. Mae ei arddull hyfforddi yn rhyw baradocs diddorol o fod yn gadarn a llym ond yn agored iawn hefyd.

Rhywbeth arall fydd yn agored heddiw fydd to'r stadiwm. Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad yma. Mae cau'r to yn creu rhyw awyrgylch annifyr, gyda rhyw sŵn rhyfedd yn y stadiwm, nad yw’n gyfeiliant rhy dda i’r canu prin. Ac mae'r maes yn dueddol o fynd yn llithrig hefyd, sy'n atal Cymru rhag chwarae’r gêm reddfol sy’n nodweddiadol ohoni, yn enwedig o ran y gallu i ochrgamu’n annisgwyl. Ac wrth gwrs, fel y canodd Max Boyce, rhaid agor y to er mwyn i Dduw allu mwynhau’r chwarae.

Saturday, February 09, 2008

Insomnia?

I've just noticed that my previous post notes that it was posted at 4am, when it fact it was posted at midday. I must take this opportunity to state that I am not some night owl who types about rugby during the early hours of the morning.

Ffawd?

"It was meant to happen". Dyna oedd geiriau Jonny Wilkinson wrth fyfyrio ar ddigwyddiadau'r penwythnos diwethaf. Yn rhyfedd iawn, mae'r maswr yn awgrymu mai digwyddiad er lles Lloegr oedd buddugoliaeth Cymru. A yw'n awgrymu mai ffawd sy'n penderfynu tynged gêm yn hytrach nag ewyllys rydd? Gadewch iddo gredu hynny!
Tra bod Wilkinson yn brysur yn newid ei ffordd o feddwl, mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi gwneud sawl newid. Yn ogystal â newid tîm llwyddiannus, mae Gatland wedi mynd gam ymhellach drwy symud ystafell newid hefyd. Peidiwch â dweud bod elfen o ofergoel yn rhan o ddisgyblaeth haearnaidd y gŵr o Seland Newydd? Na meddai'r dyn ei hun; y rheswm dros symud ystafell yw ei bod yn haws edrych i fyw llygaid y chwaraewyr yn yr ystafell newid arall, ac mae hynny'n hanfodol yn ei farn ef.
Beth bynnag fydd canlyniad y gêm heddiw, mae'n ddiwrnod mawr i Chris Paterson. Bydd yn ennill cap rhif 83 heddiw, sy'n golygu mai ef fydd olwr yr Alban sydd wedi ennill y mwyaf o gapiau dros ei wlad.