Sunday, March 22, 2009

Diflastod nos Sul

Dwi ‘di sylwi ers amser (wel, blynyddoedd a dweud y gwir) fy mod i’n teimlo’n isel ar nos Sul (wel, am wyth o’r gloch a bod yn fanwl gywir). Peidiwch â’m camddealll dwi’n fodlon iawn fy myd ar y cyfan. Ond oes rhyw fath o gyd-emosiwn yn lledu ar draws y wlad ar yr adeg hon? Meddwl ydwyf am holl bobl y wlad yn dechrau meddwl am orfod wynebu wythnos arall. Yr ysgrifenyddes yn poeni am y llwyth gwaith fydd yn ei hwynebu fore llun, y rheolwr swyddfa yn poeni am ganlyniad y tendr hollbwysig, y plentyn ysgol sy’n gwybod bod ganddo wers gyda’i gas-athro y bore canlynol…
Dwi’n athronyddu yma, ond mae rhywbeth rhyfedd am nos Sul. Rhywbeth sydd mor wahanol i nos Wener…
A’r ateb? Gwin coch.