Monday, November 13, 2006

Sgarffiau, menig a chyri

Er taw cawl yw’r saig draddodiadol ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae'n well gen i gyri. Mae'n fwy effeithiol wrth gynhesu ac ymlacio'r corff. Ac mae’r tywydd oer yn sicr yn esgus da (os oes angen esgus) i goginio cyri sydd ychydig bach yn boethach na’r arfer.
Dwi’m yn cofio pryd ddechreuodd f’obsesiwn â bwyd India. Yn wir, mae’n fwy nag obsesiwn. Dwi’n fodlon cyfadde’n gyhoeddus fy mod yn gaeth i gyri.
Y cof cynharaf sydd gennyf o flasu’r bwyd oedd cael cyw iâr tandwri gan fy nhad. Byddai’r arogleuon fyddai’n llenwi’r tŷ yn rhan annatod o nos Sadwrn, mor bwysig â Match of the Day a’r Maes Chwarae.
Flynyddoedd yn ddiweddarach, roedd ‘mynd am gyri’ yn arfer cyffredin yn y brifysgol, a doedd dim prinder bwytai o’r fath yn Abertawe, a’r ffaith bod y bwytai’n cystadlu yn erbyn ei gilydd yn golygu bod sawl dêl i fyfyrwyr cymharol dlawd. Fel y dywedodd rhyw foi untro, nage “eat as much as you like” yw’r slogan, ond “eat as much as you can!”. Yn sicr, mae yna elfen o her yn gysylltiedig â’r bwyd. Dwi’n cofio’r anfarwol Dan Gwallt yn gwledda ar vindaloo ar drip rygbi unwaith. Dim chips, dim reis a dim peint. Dim ond platiad o’r bwyd poethaf. Mi gladdodd y cwbl, a bechgyn y flwyddyn gyntaf wedi darganfod arwr newydd.
Dwi ddim yn hollol siwr pam fy mod yn teimlo’n well ar ol y peth. Byddai’r rhai sinigaidd yn dweud bod rhyw gynhwysion afiach yn y bwyd. Ond dwi’n anghytuno â hyn. Efalle bod rhyw gemegau arbennig yn y perlysiau. Yn wir, ma’ digon o wybodaeth am fanteision perlysiau fel tyrmerig a chardamom. Yn hynny o beth gellir dadlau nad yw bod yn gaeth i’r bwyd hwn cynddrwg â hynny, a’i fod hyd yn oed yn beth iachus. Wel, dwi’n siwr bo’ pethau gwaeth y gallwch fod yn gaeth iddyn nhw.