Wednesday, June 10, 2009

Cyfryngau di-fflach

Rhaid i mi ddweud bod problemau Golwg yn fy nghythruddo. Ac arian cyhoeddus sy’n talu am hyn. Beth sy’n digwydd? Roeddwn yn disgwyl rhywbeth cyffrous, ond mae gwefan Golwg360 yn debycach i dudalennau Ceefax o’r wythdegau. Prin iawn yw’r lluniau hefyd a dwi methu dod o hyd i unrhyw fideos heblaw'r un sy'n cyflwyno'r wefan.
Ni ddylai’r wefan fod wedi’i lansio oni bai bod y cynhyrchwyr yn gwbl sicr bod y dam peth yn gweithio.
Gan fy mod yn trafod y cyfryngau, un peth arall sy’n mynd o dan fy nghroen yw’r ffaith bod cymaint o ailadrodd straeon ar S4C. Enghraifft berffaith heno. Wedi 7 yn darlledu o stadiwm athletau Caerdydd. Iawn, eitem reit ddiddorol. A beth sy ar newyddion hanner awr wedi saith? Darllediad byw o stadiwm athletau Caerdydd. Ac yn cyfweld â’r un person! Mae angen mwy o gydweithio er mwyn sicrhau bod yr arlwy’n llai undonog.

Dwi’n un o’r bobl heb Sky (ar hyn o bryd) ac roeddwn eisiau dilyn y Llewod heno. Mae gen i radio ddigidol wych ac roeddwn yn siŵr y bydde rhywfaint o sylweaeth yn rhywle. Dim byd, heblaw ambell bwt gan Gareth Charles ar Radio Cymru. Dim byd ar Radio Cymru, Radio Wales, TalkSport, FiveLive…yr unig opsiwn yw cael adroddiadau byr o’r we, sydd mwy fel darllen nofel na gwylio gêm fyw. Diflas.

Sunday, June 07, 2009

Chwarae

Rwy'n credu mai un o'm problemau dros y misoedd/blynyddoedd diwethaf yw nad wyf yn chwarae digon. Mae angen i mi chwarae mwy. Dwi'n credu bod hon yn broblem gyffredin. Treulio amser gwaith yn meddwl am hamdden ac amser hamdden yn meddwl am waith...