Saturday, January 06, 2007

Nadolig di-deledu (wel, fwy neu lai)

Ni chefais lawer o amser i wylio’r teledu dros yr Ŵyl. Yn fy marn i mae gwylio rygbi byw (hyd yn oed Pen-y-bont yn herio Maesteg!) yn well na gwylio’r gêm ar y sgrin fach ac mae cwmni ffrindiau a theulu’n well na wynebau cyfarwydd yr operâu sebon.
Cyn i mi ddechrau swnio’n Biwritanaidd, rhaid i mi gyfaddef i mi lwyddo i weld un rhaglen, sef fersiwn ‘seleb’ Mastermind Cymru. Llongyfarchiadau i Gary Slaymaker and gipio’r tlws mor ddiffwdan. Tra bod yr ‘enwogion’ eraill yn stryffaglu yn y sedd enwog roedd yntau Slaymaker fel pe bai’n eistedd yn hamddenol gyda’i bopcorn mewn un o’r ‘cannoedd ar filoedd’ (chwedl yntau) o ffilmiau y mae wedi’u ‘hadolygu’ yn ei yrfa. Difir oedd gweld mai ‘ffilmiau Rocky’ oedd ei bwnc testun (difyrrach fyth oedd clywed y cyflwynydd yn datgan hyn i’r genedl). Ond chwarae teg i’r cystadleuwyr eraill, ma’ hi dipyn yn haws cofio ffeithiau o bum ffilm Rocky nag ydyw i gofio hanes clwb rygbi, dyweder. Ac er bod y nofel Un Nos Ola’ Leuad (sef pwnc dewis Meinir Gwilym) yn llawn delweddau trawiadol, mae’r ffilmiau am y bocsiwr yn dipyn haws i’w cofio. Er enghraifft, mae’r ddelwedd o’r bocsiwr yn dyrnu cig marw yn y lladd-dy i fiwsig Bill Conti yn dal yn fyw yn y cof dros ddeng mlynedd ar hugain ers rhyddhau’r ffilm ond yn anffodus dwi methu â chofio llawer am nofel Caradog Pritchard (heblaw am frith gof pan mae’r prif gymeriad yn cael llaeth enwyn ar ôl cael braw – bydd rhaid i mi ailddarllen y nofel).Wrth gwrs, roedd dewis Slaymaker yn amserol iawn gan fod cymeriad Rocky ar fin dychwelyd i’r sgrin fawr. Roedd hwn yn esgus gwych i drio perswadio fy nghariad i wylio’r ffilmiau am y bocsiwr (am y tro cyntaf). Yn ôl yn y saithdegau pan oedd cynhyrchwyr yn pwyso a mesur pa un a ddylent fwrw ‘mlaen â’r cynhyrchiad ai peidio, un o’r dadleuon cryf yn erbyn rhoi’r golau gwyrdd i’r ffilm oedd oherwydd nad oedd merched yn hoff o ffilmiau am focsio. Yn sicr, ni fyddai’r meddwl rhesymegol yn dod i’r casgliad bod delweddau o focsiwr yn dyrnu mewn lladd-dy cweit at ddant ferch sy’n gwrthod bwyta cig ac o blaid hawliau anifeiliaid. Y newyddion da yw ei bod wedi mwynhau’r ddwy ffilm gynta’ ac mae’n edrych ymlaen at weld y drydedd heno. At hynny, daeth am gyri i’r Ashoka nos Iau! Ai dyma wlad yr Addewid? Efallai.