Tuesday, April 06, 2010

Cofio Geraint George

Trist iawn oedd clywed am farwolaeth sydyn Geraint George. Roedd bob amser yn fraint gweld Geraint mewn cynhadledd am ei fod mor barod i gyfrannu yn Gymraeg, rhywbeth prin mewn cynadleddau mawr. Roedd ganddo'r ddawn arbennig i gyfuno gwyddoniaeth a llenyddiaeth Gymraeg. Gallai fod yn trafod rhyw fater yn ymwneud â'r amgylchedd ac yn sydyn byddai'n dyfynnu llinell o gerdd gan Gwenallt neu T.H. Parry Williams, a'r di-Gymraeg yn gwrando'n astud arno drwy eu clustffonau.
"Ac ro'n i'n arfer cael fy nhaflu ma's o'r dosbarth Cymraeg yn 'rysgol!" cyfaddefodd wrthyf unwaith.
Roedd Geraint bob amser yn llawn brwdfrydedd, boed am ddaeareg, tîm rygbi Cymru neu'r Swans, i enwi ond tri o'r pethau oedd yn tanio ei ddychymyg. Fel brodor o Gwm Tawe'n byw yng Ngwynedd, roedd Geraint yn sefyll mas, a'i acen ddeheuol yn unigryw ymhlith aelodau eraill Parc Cenedlaethol Eryri.
Rydym wedi colli sawl ffigwr blaenllaw yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Dwi'n weddol siwr y byddai Geraint hefyd wedi dod yn gynyddol amlwg yng Nghymru oni bai am ei farwolaeth sydyn, gynamserol.
Yn ingol, braidd, rwy'n cofio mewn un cyfarfod iddo ganmol un o sloganau Cymraeg y parciau cenedlaethol: 'Lle i enaid gael llonydd'. Yr oedd yn hoff iawn o'r slogan hwnnw. Tybed a oedd yntau hefyd yn dyheu am ryw lonyddwch nad yw'n hawdd dod o hyd iddo yn yr oes sydd ohoni.

Etholiad

A bod yn onest does gen i ddim llawer o ddiddordeb yn yr etholiad sydd ar y gweill. Mae gen i ddiddordeb mawr yn yr hyn sy'n digwydd ym Mae Caerdydd, a'r posibilrwydd o gael rhagor o bwerau ayyb. Ond mae'r hyn sy'n digwydd yn San Steffan yn llai diddorol rywsut. Efallai fod hynny'n brawf bod datganoli'n gweithio; mae'n rhaid bod y ffaith bod y Senedd yn ddiddorol yn dweud rhywbeth.
Am wn i, byddai buddugoliaeth i'r Ceidwadwyr yn fwy tebygol o lesteirio unrhyw ddatganoli pellach i Fae Caerdydd. Ond wedi dweud hynny mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn amlwg o blaid cynnal y refferendwm neu mi fyddent wedi pleidleisio'n erbyn cynnal refferendwm ar y mater. Felly beth yw'r gwahaniaeth i Gymru? Ac os bydd y Ceidwadwyr yn ennill sut bydd hynny'n effeithio ar y berthynas â'r Senedd? Bydd yn golygu y bydd tair plaid yn llywio dyfodol y wlad, ac mae hynny'n swnio'n eithaf rhyfedd i mi. "Too many cooks..." i ddyfynu'r Sais.

d.s.dwi'n casáu pobl sy'n dweud 'fel mae'r Sais yn dweud' etc jest am bo nhw methu meddwl am ffordd Gymraeg o ddweud rhywbeth.