Monday, July 16, 2007

Croeso cynnes ym Margam?

“Excuse me sir, but this tent is for VIPs only”
Dechrau gwych. Dyna’r croeso gefais i yn y parti mawr i groesawu Katherine Jenkins (sydd o Gastell-nedd) adref i Barc Margam.
Chwilio am ddiod yr oeddwn i yn y babell. Wel, chwilio am alcohol a dweud y gwir. Cefais siom aruthrol ar ôl cyrraedd y cyngerdd a gweld bod pawb arall yn y parc wedi dod â’u hampyrs a’u gwinoedd (ers pryd ma’ hawl gan bobl fynd â diodydd i gyngherddau?). Ar ôl cael fy ngwrthod yn y babell arbennig, rhaid oedd bodloni ar giwio am ugain munud, a hynny dim ond er mwyn cael paned oer o de heb laeth na siwgr. Roedd un pâr wedi dod â hampyr enfawr gyda chyllyll a ffyrc oedd yn sgleinio o dan heulwen diwedd y dydd mis Gorffennaf, ac yn sipian siampên yn eu deck chairs cyrffyrddus, fel pe baent yn eu gardd gefn (ac ers pryd ma’ hawl gan bobl fynd â chadeiriau i gyngherddau?!). A ninnau’n rhannu bag o nachos ar y glaswellt. Talu deugain punt am ga’l eistedd mewn cae a chrensian fel gwartheg.
“Welaist di frone Katherine?” gofynnwyd i mi ar ôl y digwyddiad. Y gwir yw mai prin yr oeddwn yn gallu gweld y llwyfan, heb sôn am ddim byd arall. Ond fel gyda’r arlwyo, roedd rhai o’r dynion (pensiynwyr gan amlaf) wedi gwneud eu gwaith cartref. Gwelais i un hen foi’n ymbalfalu yn ei hampyr. Roeddwn yn disgwyl iddo dynnu cacen neu ffrwythau o’i sach, ond yn hytrach datgelwyd pâr enfawr o finociwlars, nad oedd, am wn i, wedi gweld golau ddydd ers y rhyfel. Duw ag ŵyr beth oedd i’w weld drwy’r cyfarpar enfawr. Ac er bod gwên fawr ar ei wyneb, nid oedd hyn yn poeni dim ar ei wraig oedd yn parhau i sipian ei gwin ac ymgolli yn ei salad.
Dwi ddim yn ddigon o arbenigwr i roi sylwadau ar y cantorion. Digon yw dweud nad oedd elfennau ystrydebol perfformiad Jenkins yn fy nghyffroi o gwbl (a yw canu caneuon Tom Jones yn ddigon i roi naws Gymreig i ddigwyddiad? Pam oedd y dorf yn neidio lan a lawr ac eilun addoli’r gantores wrth iddi ganu ‘We’ll keep a welcome?’).
Do, mi gadwodd y glaw bant ond roedd hi’n noson uffernol o oer ac roeddwn yn falch o gael cyrraedd y car a dianc lawr yr M4. Mae un peth yn sicr, ni fyddaf yn mynd i’r parti flwyddyn nesaf, hyd yn oed os caf wahoddiad i’r babell arbennig.