Sunday, September 16, 2007

Disturbia

Ma' nhw'n dweud bod rhaid i ffilm lwyddiannus ennyn sylw'r gwyliwr o fewn y deg munud cyntaf. Yn sicr, mae cyffro golygfeydd agoriadol Disturbia yn llwyddo yn hyn o beth. Yn anffodus mae elfen gomedi gryf yng ngweddill y ffilm sy'n tanseilio'r dechrau cyffrous. Efallai fod rhan Ivan Reitman yn y ffilm yn esbonio hyn (ef oedd yn gyfrifol am ffilmiau fel Ghost Busters a Twins).
'Teen flick' yw Disturbia yn y bôn, ac mae'n siwr mai'r glasoed fydd yn ei mwynhau fwyaf. Serch hynny, un o uchafbwyntiau'r ffilm yw gweld Sarah Roemer yn toreheulio ac yn plymio i'r pwll nofio. Bydd hyn yn apelio at bob bachgen sy'n dechrau ei arddegau, yng nghanol ei arddegau neu'n cofio ei arddegau. Mae yna ryw ddirgelwch am gymeriad Roemer, sy'n debyg i berfformiad Elisha Cuthbert yn The Girl Next Door. Ond caiff y dirgelwch yma ei ddifetha yn sgil ei chyfeillgarwch â'r bechgyn.
Ar ryw lefel, mae'n ffilm glyfar am bwysigrwydd arsylwi a bod yn arsylwgar. Mae'n ffilm am gaethiwed cymeriad i'w filltir sgwâr a'r heriau sy'n ei wynebu yn sgil ei gaethiwed.
Gwendid y ffilm yw bod pethau'n digwydd yn rhy gyflym tua'r diwedd, a dydyn ni ddim cweit yn siwr pa emosiynau i'w teimlo. Mae'r cyfuniad o'r digri a'r dirgel yn ormodol. Yn fy marn i nid yw'n werth talu i fynd i weld ffilm hon. Ewch i weld i Atonement yn lle.
Disturbia - pump allan o ddeg.