Thursday, September 30, 2010

Clwb Cyri

Heno cefais fy ethol yn gadeirydd clwb cyri’r uned gyfieithu. Ein nod yw crwydro bwyta’r ddinas a thu hwnt er mwyn magu rhagor o brofiad yn y maes.

Rose Indienne gafodd ein sylw heno. Cafwyd croeso cynnes iawn wrth i ni gamu trwy’r drysau moethus. Un peth braf am Rose Indienne yw’r ffenestri anferth. Rwy’n hoffi gweld be’ dwi’n ei fwyta, ac mae cael ddigon o olau dydd yn hwyluso hynny.

Ar ôl defod y popadoms, rhaid oedd dewis o’r fwydlen gynhwysfawr. Ac am ddewis. Oes rhywun ‘rioed ‘di gweld saig o gregyn gleision ar fwydlen indiaidd? Ar ôl cryn drafod, dewisais olwythion cig oen tandwri gyda reis pilau a llysiau. A phum baji winwns.

Ma’ dewis cig oen wastad yn risg mewn bwyty Indiaidd. Bydd y cig naill ai’n toddi yn eich pen, neu fel cnoi ar wadnau hen esgidiau. Mae’n bleser dweud taw’r cyntaf a gafwyd yn Rose Indienne. Serch hynny, roeddwn yn siomedig bod rhaid i mi ofyn am saws mint gyda’r cig oen. “Pam lai” oedd ymateb y gweinydd. Oni ddylai saws o’r fath fod yn rhan o’r pryd?

Yn anffodus roedd y bajis tamed bach yn seimllyd, ond yn dderbyniol.

Mae fy nhad wastad yn dweud bod mesur bwyty yn ôl safonau’r toiledau. Wel rhaid dweud bod y toiledau’n eithriadol o lân, os nad yn ddigon glân i weini bwyd ar eu lloriau. Does tim toiledau glanach yn Abertawe. Serch hynny, roedd hen garton bwyd parod ar y llawr, i gronni dŵr oedd yn diferu o’r to. Ond peth bach yw hynny, ac mae’n well na cha’l llawr gwlyb.

Wyth allan o ddeg.

http://www.roseindienne.com/

0 Comments:

Post a Comment

<< Home