Saturday, February 27, 2010

Perfformiad calonogol...ond agorwch y to

Gêm gyffrous, annisgwyl. Yr unig broblem neithiwr oedd bod yr holl densiynau'n gwneud i'r dorf chwysu'n ddi-baid, a'r chwys hwnnw'n methu dianc o'r stadiwm. Roedd y chwys llawn cwrw yn cronni ar do'r stadiwm ac yna'n disgyn yn ôl ar y cae ac yn gwneud i chwaraewyr o'r ddau dîm lithro. Ar un adeg roedd fel edrych ar y Gemau Olympaidd yn hytrach na Phencampwriaeth y Chwe Gwlad.
At hynny, mae rhywbeth annaturiol am gêm o rygbi dan do. Dwi erioed 'di hoffi'r awyrgylch. Mae chwarae mentrus Cymru'n chwa o awyr iach, ond nid eu patrwm chwarae yw'r unig beth ddyle fod yn agored.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home