Friday, February 12, 2010

Facebook

Ie, ar ôl misoedd (blynyddoedd?) o ymwrthod â'r peth, dwi wedi ymaelodi. Rhyw deimladau cymysg sydd gen i, mae'n rhaid cyfaddef. Mae gen i bolisi o beidio â gwrthod neb. Beth os yw'r unigolyn sy'n gofyn am gael bod yn ffrind o dan bwysau ofnadwy ac yn ystyried rhoi terfyn i'w fywyd? Sefyllfa eithafol efallai, ond nid yw llun o rywun yn gwenu'n hapus yn dweud dim am yr hyn sy'n mynd mla'n 'tu fewn' fel petai.
Ar y llaw arall, mae rhywbeth eithaf cyffrous am y peth. Ers i mi adael ysgol dwi 'di cael sawl breuddwyd o fod yn ôl yn ngwmni rhai o'm ffrindiau. Wedyn dihuno a theimlo rhyw boen ingol am rai munudau. Nawr mae gen i gyfle i droi'r cloc yn ôl, yn fewnol o leiaf.
Ond wrth i mi gynyddu'r gronfa o 'ffrindiau' mae'r holl beth yn mynd mwyfwy fel adrodd ar lwyfan. Mae'r 'gynulleidfa' mor fawr ac mor eang mae'n rhaid i chi fod ar eich gorau. Dim rhegi, dim siarad am neb. Meddwl am 'y ddelwedd'. A fydd dweud hyn a hyn yn plesio hwn neu hon? Yr union bethau dwi 'di bod yn ceisio'u hosgoi dros y degawd diwethaf.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home