Caneuon
Rwy'n teimlo braidd yn flin ar ôl gwrando ar radio Cymru. Dwi ddim yn wrandwr selog gyda'r hwyr, ond roeddwn i awydd clywed caneuon Cymraeg cyn mentro i'r wyl nes 'mlaen yn yr wythnos. Ac er bod y ddwy gyflwynwraig yn llawn egni a brwdfrydedd byrlymus, roedd sawl cân Saesneg yn britho'r darllediad. A bod yn gwbl onest, dwi ddim yn gwrthwynebu'r polisi o ganiatáu ambell gân Saesneg os taw dyna yw dymuniad rhyw wrandawr sy'n dathlu achlysur arbennig neu angen clywed rhyw gân benodol. Ond rwy'n siwr bod modd hepgor y polisi hwn yn ystod wythnos y brifwyl? Yn enwedig os yw'r cyflwynwyr dan sylw yn darlledu o'r maes ieuenctid? Dwi'n credu bod y syniad o 'gynhwysiad' yn wych, ac mae angen cynnwys cymaint o bobl â phosibl. Ond un o gryfderau mawr yr wyl yw'r rheol Gymraeg. Oni ddylai'r rheol hon ymestyn i holl feysydd y brifwyl a'r darllediadau ohonynt?
0 Comments:
Post a Comment
<< Home