Monday, June 26, 2006

Clywed clychau rhybudd

Dwi’n erbyn y syniad o chwilio am nwy ac olew ym mae Ceredigion.
A cyn i chi fy nghyhuddo o fod yn ‘NIMBI’, dwi’n byw yn y de-ddwyrain, ymhell o’r ardal dan sylw. Efallai mai’r pwynt pwysicaf sy’n codi yn y drafodaeth hon yw’r ffaith na allai Bae Caerdydd wneud dim i helpu Bae Ceredigion pe bai’r arbrofion yn ‘llwyddiannus’. Mae rhywbeth rhyfedd am y ffaith bod gan y Cynulliad hawl i atal wal fach rhag cael ei hadeiladu mewn rhyw gae anghysbell. Ond dim pŵer o gwbl i ddylanwadu ar benderfyniad i dyllu ym Mae Ceredigion, a pheryglu’r bywyd gwyllt (a’r diwydiant twristiaeth) yn y broses. Ac mae rhywbeth rhyfedd am y ffaith bod y Gweinidog dros yr Amgylchedd yn brolio strategaeth amgylcheddol newydd ac yn ein hannog i ‘gadw Cymru’n daclus’, tra bod ei ‘gyd-aelodau’ yn San Steffan yn ystyried rhoi rhwydd hynt i gwmnïau olew dyllu i berfeddion Cantre’r Gwaelod. Wrth gwrs, mae manteision ac anfanteision i bob ymgyrch. O safbwynt WAVE, mae’n beth da i’r economi. O safbwynt sicrhau tonau naturiol a glân, gall fod yn beth peryglus iawn.