Monday, March 13, 2006

Chwilio am arwyr newydd?

Mae buddugoliaeth eithriadol Joe Calzaghe dros Jeff Lacey wedi ailgynnau’r ddadl yngln â ph’un a yw’r gamp yn ddiogel ai peidio. Trueni bod pobl yn gorfod codi’r dadleuon hyn ar ôl llwyddiant rhyfeddol y gŵr o Drecelyn. Enghraifft arall o’n anallu ni fel cenedl i dderbyn llwyddiant?
Er na chafodd yr ornest ei dangos ar awr gall, mae’n sicr bod yr amseru yn fuddiol iawn o ran codi proffil y Cymro yn America. Ond mae rhai’n pryderu y bydd llwyddiant y Cymro’n annog llawer o fechgyn ifanc (a merched hefyd o bosib) i ymgymryd â’r gamp.
Wrth gwrs, mae yna ddadleuon o blaid ac yn erbyn camu i’r sgwâr bocsio.
Dwi’n bersonol o blaid bocsio, cyhyd â bod yr unigolion dan sylw yn ymwybodol o’r risgiau sy’n eu hwynebu. A does dim dwywaith bod y sesiynau ymarfer ar gyfer bocsio yn ffordd ddefnyddiol iawn o ryddhau tensiynau o bob math.
Mewn byd sy’n gallu creu pob math o emosiynau negyddol a thensiynau, efallai bod lle i groesawu man lle gallwch ‘ollwng stêm’ yn ddiogel.
Mae Gareth Howells, sy’n hyfforddi bocswyr ifanc yn ardal Llanelli ers lawer dydd, yn deall pwysigrwydd hyn.
“Mae’r lle’n llawn o fechgyn ifanc. Mae’n well i gael nhw yn y gym, mae’n well na bo’ nhw’n ymladd ar hyd yr hewlydd yn y nos…rhyw gasineb sydd ynddyn nhw, gallan nhw weitho fe mas yn y clwb bocsio”.
Wrth gwrs, mae gan y BMA syniadau eraill, ond dyna ni.