Saturday, February 23, 2008

Rygbi agored

Bydd gêm agored yn allweddol heddiw. Rhaid canolbwyntio ar ein cryfderau a cheisio osgoi cryfder yr Eidalwyr, sef eu blaenwyr nerthol. Yn sicr, Cymru sydd â'r fantais seicolegol, ar ôl ennill ei dwy gêm gyntaf, er y cafwyd perfformiadau anfoddhaol yn erbyn yr Eidal dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae Gatland yn hoffi pwysleisio y dylid canolbwyntio ar y tymor canolig a'r hirdymor, sef ffordd arall o ddweud 'peidiwch â rhoi amser caled i mi os byddwn yn cael crasfa heddiw'. Serch hynny, mae ffordd o feddwl yr hyfforddwr wedi gwneud argraff dda arnaf. Nid oes ofn mentro arno. Mae ei arddull hyfforddi yn rhyw baradocs diddorol o fod yn gadarn a llym ond yn agored iawn hefyd.

Rhywbeth arall fydd yn agored heddiw fydd to'r stadiwm. Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad yma. Mae cau'r to yn creu rhyw awyrgylch annifyr, gyda rhyw sŵn rhyfedd yn y stadiwm, nad yw’n gyfeiliant rhy dda i’r canu prin. Ac mae'r maes yn dueddol o fynd yn llithrig hefyd, sy'n atal Cymru rhag chwarae’r gêm reddfol sy’n nodweddiadol ohoni, yn enwedig o ran y gallu i ochrgamu’n annisgwyl. Ac wrth gwrs, fel y canodd Max Boyce, rhaid agor y to er mwyn i Dduw allu mwynhau’r chwarae.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home