Wednesday, February 04, 2009

Valkyrie

Yr hyn sy’n arbennig am y ffilm hon yw bod unigolyn yn penderfynu gwneud ei benderfyniad ei hun. Mae cymeriad Claus von Stauffenberg yn barod i herio’r sefyllfa bresennol yn hytrach na derbyn popeth yn ddi-gwestiwn. Roedd y rhan fwyaf o bobl yr Almaen ar y pryd yn tueddu i dderbyn popeth heb feddwl a dilyn ei gilydd fel defaid. Wrth gwrs, roedd peiriant propaganda’r unben yn gryf yn ystod y cyfnod hwn, ac mae’n bur debygol bod y rhan fwyaf o’r boblogaeth, a’r rhan fwyaf o’r fyddin hefyd, yn anymwybodol o’r hyn oedd yn digwydd mewn gwirionedd. Neu roedd llawer ohonynt yn ymwybodol o’r hyn oedd yn digwydd ond ofn herio’r awdurdod. Wrth gwrs, pan ddaeth Hitler i’r amlwg yn y tridegau roedd y wlad yn dioddef yn sgîl problemau ariannol byd-eang ar ôl chwalfa Wall Street ar ddiwedd yr 1920au. Roedd pobl yr Almaen eisiau credu ynddo a’r hyn yr oedd yn ei bregethu. Roedd yn hawdd dylanwadu ar genedl a oedd wedi colli ei hyder ar ôl cytundeb Versailles. Efallai mai’r wers i ni heddiw yw peidio chwilio am atebion hawdd mewn sefyllfaoedd anodd. I ryw raddau mae’r un peth yn digwydd yn yr Unol Daleithiau heddiw – mae pobl yn barod am newid ac eisiau croesawu’r cysyniad yma o obaith. Dyna ddigwyddodd yn yr Almaen yn y tridegau – roedd y bobl yn chwilio am arweinydd cryf ac yn dyheu am ddyfodol llewyrchus. Nid bod Arlywydd America’n mynd i droedio’r un llwybr. Ond mae’n dweud rhywbeth am seicoleg pobl, ein bod ni’n rhy barod i ddisgwyl y gall unigolyn drawsnewid sefyllfa. Rydym yn rhy barod i ddwyfoli unigolion.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home